South Wales Police | Heddlu De Cymru
South Wales Police | Heddlu De Cymru
February 14, 2025 at 03:09 PM
Mae un o'r troseddwyr yr oedd heddlu'r DU yn fwyaf awyddus i'w dal wedi cael ei anfon i'r carchar am 12 mlynedd yn Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw. 🚨 Calvin Parris oedd aelod olaf grŵp troseddau cyfundrefnol i gael ei ddwyn i gyfrif ar ôl treulio pedair blynedd ar ffo. Cafodd Parris, 34 oed o Gaerdydd, ei ddal o'r diwedd gan swyddogion Heddlu Barnwrol Portiwgal yn yr Algarve, Portiwgal ar 3 Hydref. Cafodd ei hebrwng yn ôl i'r DU gan swyddogion arbenigol yr Uned Estraddodi Genedlaethol o Ganolfan Troseddau Rhyngwladol ar y Cyd (ICC) yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar 15 Hydref 2024, a'i gludo i'r ddalfa gan Heddlu De Cymru. ➡️ https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/news/south-wales/newyddion/2025/chwefror/un-or-ffoaduriaid-yr-oedd-yr-heddlu-yn-fwyaf-awyddus-iw-dal-wedii-anfon-ir-carchar/

Comments